RHAN 3ADEILADAU O DDIDDORDEB PENSAERNÏOL NEU HANESYDDOL ARBENNIG

PENNOD 2RHEOLAETHU GWAITH SY’N EFFEITHIO AR ADEILADAU RHESTREDIG

Awdurdodi gwaith

88Gofyniad i waith gael ei awdurdodi

(1)

Ni chaiff person gyflawni gwaith y mae’r adran hon yn gymwys iddo, neu beri i waith o’r fath gael ei gyflawni, oni bai bod y gwaith wedi ei awdurdodi o dan adran 89.

(2)

Mae’r adran hon yn gymwys—

(a)

i waith ar gyfer addasu neu estyn adeilad rhestredig mewn unrhyw ffordd a fyddai’n effeithio ar ei gymeriad fel adeilad o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig;

(b)

i waith ar gyfer dymchwel adeilad rhestredig.

(3)

Ond nid yw’r adran hon yn gymwys—

(a)

i waith mewn perthynas ag adeilad sy’n heneb gofrestredig (ond gweler adran 11);

(b)

i waith mewn perthynas ag adeilad crefyddol esempt;

(c)

i waith ar gyfer dymchwel adeilad sydd ar gau ar gyfer addoli rheolaidd gan y cyhoedd, neu ran o adeilad o’r fath, yn unol â darpariaeth a wneir o dan Ran 6 o Fesur Cenhadaeth a Bugeiliol 2011 (Rhif 3) gan gynllun bugeiliol adeiladau eglwysi neu gynllun bugeiliol (gwaredu adeiladau eglwysi);

(d)

i waith a gyflawnir gan neu ar ran y Goron o dan yr amgylchiadau a nodir ym mharagraffau (a) i (d) o adran 117(4) (gwaith brys).