RHAN 3ADEILADAU O DDIDDORDEB PENSAERNÏOL NEU HANESYDDOL ARBENNIG

PENNOD 1RHESTRU ADEILADAU O DDIDDORDEB ARBENNIG

Rhestru dros dro

86Digollediad am golled neu ddifrod a achosir gan restru dros dro

(1)

Mae’r adran hon yn gymwys pan fo rhestru dros dro yn dod i ben mewn perthynas ag adeilad—

(a)

ar ddiwedd y cyfnod o 6 mis a grybwyllir yn adran 85(1), neu

(b)

oherwydd bod Gweinidogion Cymru yn rhoi hysbysiad o dan adran 85(3) nad ydynt yn bwriadu ymgynghori ar gynnig i restru’r adeilad.

(2)

Mae gan unrhyw berson a oedd â buddiant yn yr adeilad pan gymerodd y rhestru dros dro effaith hawlogaeth, wrth wneud hawliad i’r awdurdod cynllunio y mae’r adeilad yn ei ardal, i gael ei ddigolledu gan yr awdurdod am unrhyw golled neu unrhyw ddifrod a ddioddefir gan y person y gellir ei phriodoli neu ei briodoli’n uniongyrchol i’r rhestru dros dro.

(3)

Mae’r golled neu’r difrod y mae digollediad yn daladwy amdani neu amdano yn cynnwys unrhyw swm sy’n daladwy gan yr hawlydd mewn cysylltiad â thor contract a achosir gan yr angen i stopio neu ganslo gwaith i’r adeilad oherwydd y rhestru dros dro.

(4)

Rhaid i hawliad am ddigollediad o dan yr adran hon gael ei wneud yn ysgrifenedig o fewn 6 mis sy’n dechrau pan ddaw’r rhestru dros dro i ben.