RHAN 3ADEILADAU O DDIDDORDEB PENSAERNÏOL NEU HANESYDDOL ARBENNIG
PENNOD 1RHESTRU ADEILADAU O DDIDDORDEB ARBENNIG
Rhestru dros dro
85Diwedd rhestru dros dro
(1)
Mae rhestru dros dro adeilad yn cael effaith tan ddiwedd y 6 mis sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’n cymryd effaith o dan adran 83(4), oni bai ei fod yn dod i ben o dan is-adran (2) neu (3).
(2)
Os yw Gweinidogion Cymru yn cyflwyno hysbysiad o dan adran 78(1) o gynnig i restru’r adeilad, daw rhestru dros dro i ben pan fydd gwarchodaeth interim yn cymryd effaith mewn perthynas â’r adeilad (ac mae’r adeilad yn parhau i gael ei drin fel pe bai’n adeilad rhestredig at ddibenion penodol yn rhinwedd adran 79(2)).
(3)
Os yw Gweinidogion Cymru yn hysbysu’r awdurdod cynllunio yn ysgrifenedig nad ydynt yn bwriadu ymgynghori o dan adran 78 ar gynnig i restru’r adeilad, daw rhestru dros dro i ben ar ddechrau’r diwrnod a bennir yn yr hysbysiad.
(4)
Mae Atodlen 7 yn gwneud darpariaeth ynghylch effaith rhestru dros dro yn dod i ben—
(a)
ar ddiwedd y cyfnod o 6 mis a grybwyllir yn is-adran (1), neu
(b)
oherwydd bod Gweinidogion Cymru yn rhoi hysbysiad o dan is-adran (3) nad ydynt yn bwriadu ymgynghori ar gynnig i restru’r adeilad.
(5)
Os daw rhestru dros dro i ben mewn perthynas ag adeilad oherwydd bod Gweinidogion Cymru yn hysbysu’r awdurdod cynllunio nad ydynt yn bwriadu ymgynghori ar gynnig i restru’r adeilad—
(a)
rhaid i’r awdurdod roi hysbysiad o’r penderfyniad hwnnw ar unwaith i bob perchennog a phob meddiannydd ar yr adeilad;
(b)
ni chaiff yr awdurdod gyflwyno hysbysiad rhestru dros dro arall mewn cysylltiad â’r adeilad yn ystod y 12 mis sy’n dechrau â’r diwrnod y mae Gweinidogion Cymru yn rhoi’r hysbysiad.