RHAN 3ADEILADAU O DDIDDORDEB PENSAERNÏOL NEU HANESYDDOL ARBENNIG
PENNOD 1RHESTRU ADEILADAU O DDIDDORDEB ARBENNIG
Adolygu penderfyniadau rhestru
82Darpariaeth atodol ynghylch adolygiadau
(1)
Rhaid i Weinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth ynghylch—
(a)
y ffurf a’r ffordd y mae rhaid i gais o dan adran 81 gael ei wneud;
(b)
yr wybodaeth y mae rhaid ei darparu i Weinidogion Cymru, neu y gall fod yn ofynnol ganddynt, mewn cysylltiad â chais;
(c)
y cyfnod y mae rhaid i gais gael ei wneud ynddo.
(2)
Rhaid i adolygiad o dan adran 81 gael ei gynnal mewn un neu ragor o’r ffyrdd a ganlyn (fel y’i penderfynir gan y person sy’n cynnal yr adolygiad)—
(a)
drwy ymchwiliad lleol;
(b)
drwy wrandawiad;
(c)
ar sail sylwadau ysgrifenedig.
(3)
Pan fo adolygiad yn cael ei gynnal gan berson a benodir gan Weinidogion Cymru, mae gan y person a benodir yr un pwerau a’r un dyletswyddau mewn perthynas â’r adolygiad ag sydd gan Weinidogion Cymru o dan—
(a)
unrhyw reoliadau a wneir o dan adran 175 (gofynion gweithdrefnol), a
(b)
adrannau 180 a 181 (costau Gweinidogion Cymru a chostau partïon).
(4)
Pan fo adolygiad yn cael ei gynnal drwy ymchwiliad lleol, mae adran 177 (pŵer i wneud tystiolaeth yn ofynnol) yn gymwys i’r ymchwiliad fel y mae’n gymwys i ymchwiliad a gynhelir o dan Ran 5.
(5)
Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth bellach mewn cysylltiad ag adolygiadau o dan adran 81.
(6)
Mae Atodlen 2 yn gwneud darpariaeth bellach ynghylch swyddogaethau personau a benodir gan Weinidogion Cymru i gynnal adolygiadau o dan adran 81.