RHAN 3ADEILADAU O DDIDDORDEB PENSAERNÏOL NEU HANESYDDOL ARBENNIG

PENNOD 1RHESTRU ADEILADAU O DDIDDORDEB ARBENNIG

Adolygu penderfyniadau rhestru

81Adolygu penderfyniad i restru adeilad

(1)

Pan fo Gweinidogion Cymru yn rhestru adeilad, rhaid i’r hysbysiad o dan adran 77(1) ddatgan y caiff unrhyw berchennog neu unrhyw feddiannydd ar yr adeilad wneud cais i Weinidogion Cymru yn gofyn am adolygiad o’r penderfyniad.

(2)

Ni chaniateir gwneud cais ond ar y sail nad yw’r adeilad o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig.

(3)

Pan fo perchennog neu feddiannydd yn gwneud cais am adolygiad, rhaid i Weinidogion Cymru benodi person—

(a)

i gynnal yr adolygiad, a

(b)

i wneud penderfyniad ar yr adolygiad.

(4)

Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau bennu disgrifiadau o achosion pan fydd rhaid iddynt hwy, yn hytrach na pherson a benodir ganddynt, gynnal adolygiad a gwneud penderfyniad arno.

(5)

Rhaid i Weinidogion Cymru wneud unrhyw ddiwygiad i’r rhestr a gynhelir o dan adran 76 y maent yn ystyried ei fod yn briodol i roi effaith i benderfyniad ar adolygiad.

(6)

Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddiwygio is-adran (2)—

(a)

i ychwanegu sail ar gyfer adolygiad;

(b)

i addasu sail ar gyfer adolygiad;

(c)

i ddileu sail ar gyfer adolygiad.