RHAN 3ADEILADAU O DDIDDORDEB PENSAERNÏOL NEU HANESYDDOL ARBENNIG

PENNOD 1RHESTRU ADEILADAU O DDIDDORDEB ARBENNIG

Cynigion i restru a dadrestru adeiladau: ymgynghori a gwarchodaeth dros dro

80Digollediad am golled neu ddifrod a achosir gan warchodaeth interim

(1)

Mae’r adran hon yn gymwys pan fo gwarchodaeth interim yn dod i ben mewn perthynas ag adeilad oherwydd bod Gweinidogion Cymru yn cyflwyno hysbysiad o dan adran 79(5)(b) eu bod wedi penderfynu peidio â rhestru’r adeilad.

(2)

Mae gan unrhyw berson a oedd â buddiant yn yr adeilad pan gymerodd y warchodaeth interim effaith hawlogaeth, wrth wneud hawliad i Weinidogion Cymru, i gael ei ddigolledu ganddynt am unrhyw golled neu unrhyw ddifrod a ddioddefir gan y person y gellir ei phriodoli neu ei briodoli’n uniongyrchol i’r warchodaeth interim.

(3)

Mae’r golled neu’r difrod y mae digollediad yn daladwy amdani neu amdano yn cynnwys unrhyw swm sy’n daladwy gan yr hawlydd mewn cysylltiad â thor contract a achosir gan yr angen i stopio neu ganslo gwaith i’r adeilad oherwydd y warchodaeth interim.

(4)

Rhaid i hawliad am ddigollediad o dan yr adran hon gael ei wneud yn ysgrifenedig o fewn 6 mis sy’n dechrau pan ddaw’r warchodaeth interim i ben.

(5)

Pan oedd yr adeilad yn ddarostyngedig yn flaenorol i restru dros dro o dan adran 83 a ddaeth i ben oherwydd i’r warchodaeth interim gymryd effaith—

(a)

mae’r cyfeiriad yn is-adran (2) at yr amser pan gymerodd y warchodaeth interim effaith i’w drin fel pe bai’n gyfeiriad at yr amser pan gymerodd y rhestru dros dro effaith;

(b)

mae’r cyfeiriad yn yr is-adran honno at golled neu ddifrod y gellir ei phriodoli neu ei briodoli’n uniongyrchol i’r warchodaeth interim yn cynnwys colled neu ddifrod y gellir ei phriodoli neu ei briodoli’n uniongyrchol i’r rhestru dros dro;

(c)

mae’r cyfeiriad yn is-adran (3) at yr angen i stopio neu ganslo gwaith oherwydd y warchodaeth interim yn cynnwys yr angen i wneud hynny oherwydd y rhestru dros dro.