RHAN 2HENEBION O DDIDDORDEB HANESYDDOL ARBENNIG
PENNOD 2COFRESTR O HENEBION O BWYSIGRWYDD CENEDLAETHOL
Cynigion i ychwanegu heneb at y gofrestr neu ddileu heneb o’r gofrestr: ymgynghori a gwarchodaeth interim
8Digollediad am golled neu ddifrod a achosir gan warchodaeth interim
(1)
Mae’r adran hon yn gymwys pan fo gwarchodaeth interim yn dod i ben mewn perthynas â heneb oherwydd hysbysiad o dan adran 7(1)(b) neu (2)(b).
(2)
Mae gan unrhyw berson a oedd â buddiant yn yr heneb pan gymerodd y warchodaeth interim effaith hawlogaeth, wrth wneud hawliad i Weinidogion Cymru, i gael ei ddigolledu ganddynt am unrhyw golled neu unrhyw ddifrod a ddioddefir gan y person y gellir ei phriodoli neu ei briodoli’n uniongyrchol i’r warchodaeth interim.
(3)
Mae’r golled neu’r difrod y mae digollediad yn daladwy amdani neu amdano yn cynnwys unrhyw swm sy’n daladwy gan yr hawlydd mewn cysylltiad â thor contract a achosir gan yr angen i stopio neu ganslo gwaith i’r heneb oherwydd y warchodaeth interim.
(4)
Rhaid i hawliad am ddigollediad o dan yr adran hon gael ei wneud yn ysgrifenedig o fewn 6 mis sy’n dechrau pan ddaw’r warchodaeth interim i ben.