RHAN 3ADEILADAU O DDIDDORDEB PENSAERNÏOL NEU HANESYDDOL ARBENNIG

PENNOD 1RHESTRU ADEILADAU O DDIDDORDEB ARBENNIG

Cynigion i restru a dadrestru adeiladau: ymgynghori a gwarchodaeth dros dro

79Gwarchodaeth interim wrth aros am benderfyniad o ran pa un ai i restru adeilad

(1)

Mae’r adran hon yn gymwys pan fo Gweinidogion Cymru yn cyflwyno hysbysiad o dan adran 78(1) o gynnig i restru adeilad.

(2)

O ddechrau’r diwrnod a bennir o dan adran 78(3)(b)(ii), mae’r Ddeddf hon (ac eithrio adrannau 118 a 137 i 142) a Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (p. 8) yn cael effaith mewn perthynas â’r adeilad fel pe bai’n adeilad rhestredig.

(3)

Cyfeirir at y warchodaeth a roddir yn rhinwedd is-adran (2) yn y Rhan hon fel “gwarchodaeth interim”.

(4)

Rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)

cyhoeddi rhestr o’r adeiladau sy’n ddarostyngedig i warchodaeth interim, a

(b)

darparu copi o’r hysbysiad a gyflwynir o dan adran 78(1) mewn cysylltiad ag adeilad o’r fath i unrhyw berson sy’n gofyn am gopi.

(5)

Daw gwarchodaeth interim i ben mewn perthynas ag adeilad—

(a)

pan fo Gweinidogion Cymru yn rhestru’r adeilad, ar ddechrau’r diwrnod a bennir yn yr hysbysiad o dan adran 77(1);

(b)

pan fo Gweinidogion Cymru yn penderfynu peidio â rhestru’r adeilad, ar ddechrau’r diwrnod a bennir mewn hysbysiad a gyflwynir—

(i)

i bob perchennog a phob meddiannydd ar yr adeilad, a

(ii)

i bob awdurdod cynllunio y mae’r adeilad yn ei ardal.

(6)

Mae Atodlen 7 yn gwneud darpariaeth ynghylch effaith gwarchodaeth interim yn dod i ben o dan is-adran (5)(b).

(7)

Nid yw’r adran hon yn gymwys i adeilad sy’n heneb gofrestredig.