RHAN 3ADEILADAU O DDIDDORDEB PENSAERNÏOL NEU HANESYDDOL ARBENNIG
PENNOD 1RHESTRU ADEILADAU O DDIDDORDEB ARBENNIG
Cynigion i restru a dadrestru adeiladau: ymgynghori a gwarchodaeth dros dro
78Ymgynghori cyn rhestru neu ddadrestru adeilad
(1)
Pan fo Gweinidogion Cymru yn cynnig rhestru neu ddadrestru adeilad, rhaid iddynt gyflwyno i’r personau a grybwyllir yn is-adran (2) hysbysiad—
(a)
sy’n nodi’r diwygiad arfaethedig i’r rhestr a gynhelir o dan adran 76, a
(b)
sy’n gwahodd y personau hynny i gyflwyno sylwadau ysgrifenedig ynghylch y cynnig.
(2)
Y personau yw—
(a)
pob perchennog a phob meddiannydd ar yr adeilad,
(b)
pob awdurdod cynllunio y mae’r adeilad yn ei ardal, ac
(c)
unrhyw bersonau eraill y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol a bod ganddynt wybodaeth arbennig am adeiladau o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol, neu ddiddordeb arbennig ynddynt.
(3)
Rhaid i hysbysiad o dan is-adran (1)—
(a)
pennu’r cyfnod y caniateir i sylwadau gael eu cyflwyno ynddo, a
(b)
yn achos cynnig i restru adeilad—
(i)
cynnwys datganiad o effaith adran 79 (gwarchodaeth interim), a
(ii)
pennu’r dyddiad y mae gwarchodaeth interim yn cymryd effaith o dan yr adran honno.
(4)
Rhaid i’r cyfnod a bennir o dan is-adran (3)(a) fod o leiaf 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y cyflwynir yr hysbysiad.