RHAN 3ADEILADAU O DDIDDORDEB PENSAERNÏOL NEU HANESYDDOL ARBENNIG

PENNOD 1RHESTRU ADEILADAU O DDIDDORDEB ARBENNIG

Rhestr o adeiladau

77Hysbysiad o restru neu ddadrestru adeilad

(1)

Cyn gynted â phosibl ar ôl i Weinidogion Cymru restru neu ddadrestru adeilad, rhaid iddynt gyflwyno hysbysiad eu bod wedi gwneud hynny—

(a)

i bob perchennog a phob meddiannydd ar yr adeilad, a

(b)

i bob awdurdod lleol perthnasol y mae’r adeilad yn ei ardal.

(2)

Pan fo Gweinidogion Cymru wedi rhestru adeilad—

(a)

rhaid i’r hysbysiad bennu’r dyddiad y gwnaethant hynny, a

(b)

rhaid iddynt gynnwys gyda’r hysbysiad gopi o’r cofnod ar gyfer yr adeilad yn y rhestr a gynhelir o dan adran 76.

(3)

Mae copi o gofnod a gyflwynir o dan yr adran hon yn bridiant tir lleol, ac at ddibenion Deddf Pridiannau Tir Lleol 1975 (p. 76) y cyngor sir neu’r cyngor bwrdeistref sirol y cyflwynir y copi iddo yw’r awdurdod tarddiadol o ran y pridiant.

(4)

Rhaid i awdurdod lleol perthnasol gadw’r canlynol ar gael i’r cyhoedd edrych arnynt—

(a)

copïau o gofnodion yn y rhestr sydd wedi eu cyflwyno iddo o dan yr adran hon, a

(b)

copïau o unrhyw rannau o’r rhestr a adneuwyd gydag ef o dan adran 2(1) o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990 (p. 9) neu ddarpariaeth gyfatebol mewn unrhyw Ddeddf gynharach, i’r graddau y mae’r rhannau hynny yn parhau i fod yn gyfredol.

(5)

Rhaid i’r copïau fod ar gael i edrych arnynt—

(a)

yn rhad ac am ddim,

(b)

ar adegau rhesymol, ac

(c)

mewn man cyfleus.

(6)

Yn yr adran hon ystyr “awdurdod lleol perthnasol” yw—

(a)

cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol;

(b)

awdurdod Parc Cenedlaethol;

(c)

bwrdd cydgynllunio.