RHAN 3ADEILADAU O DDIDDORDEB PENSAERNÏOL NEU HANESYDDOL ARBENNIG
PENNOD 1RHESTRU ADEILADAU O DDIDDORDEB ARBENNIG
Rhestr o adeiladau
76Dyletswydd i gynnal a chyhoeddi rhestr o adeiladau
(1)
Rhaid i Weinidogion Cymru gynnal rhestr o adeiladau y mae rhaid iddi gynnwys pob adeilad yng Nghymru y maent yn ystyried ei fod o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig, a rhaid iddynt gyhoeddi’r rhestr gyfredol.
(2)
Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio’r rhestr drwy—
(a)
ychwanegu adeilad,
(b)
dileu adeilad, neu
(c)
diwygio’r cofnod ar gyfer adeilad.
(3)
Wrth ystyried a ddylai adeilad gael ei gynnwys yn y rhestr, caiff Gweinidogion Cymru ystyried nid yn unig yr adeilad ei hun ond hefyd—
(a)
unrhyw ffordd y mae’r tu allan i’r adeilad yn cyfrannu at ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol unrhyw grŵp o adeiladau y mae’n ffurfio rhan ohono, a
(b)
dymunoldeb diogelu unrhyw nodwedd artiffisial o’r adeilad ar sail ei diddordeb pensaernïol neu hanesyddol.
(4)
Yn is-adran (3)(b) ystyr “nodwedd artiffisial” yw unrhyw nodwedd o’r adeilad sy’n cynnwys strwythur neu wrthrych artiffisial—
(a)
sy’n sownd wrth yr adeilad, neu
(b)
sy’n ffurfio rhan o’r tir ac sydd o fewn cwrtil yr adeilad.
(5)
Yn y Ddeddf hon ystyr “adeilad rhestredig” yw adeilad sydd wedi ei gynnwys yn y rhestr a gynhelir o dan yr adran hon, ac mae’n cynnwys—
(a)
unrhyw strwythur neu unrhyw wrthrych artiffisial sy’n sownd wrth yr adeilad ac sy’n atodol iddo;
(b)
unrhyw strwythur neu unrhyw wrthrych artiffisial arall—
(i)
sy’n ffurfio rhan o’r tir ac wedi gwneud hynny ers cyn 1 Gorffennaf 1948, a
(ii)
a oedd o fewn cwrtil yr adeilad, ac yn atodol iddo, ar y dyddiad y cynhwyswyd yr adeilad yn y rhestr am y tro cyntaf, neu ar 1 Ionawr 1969, pa un bynnag oedd y diweddaraf.
(6)
Yn y Rhan hon—
(a)
ystyr “rhestru” adeilad yw diwygio’r rhestr drwy ychwanegu’r adeilad;
(b)
ystyr “dadrestru” adeilad yw diwygio’r rhestr drwy ddileu’r adeilad.