RHAN 2HENEBION O DDIDDORDEB HANESYDDOL ARBENNIG

PENNOD 7CYFFREDINOL

Atodol

75Dehongli’r Rhan hon

(1)

Yn y Rhan hon—

mae i “archwiliad archaeolegol” (“archaeological examination”) yr ystyr a roddir gan is-adran (3);

ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw—

(a)

cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru, a

(b)

awdurdod Parc Cenedlaethol yng Nghymru;

mae i “cydsyniad heneb gofrestredig” (“scheduled monument consent”) yr ystyr a roddir gan adran 13;

mae i “y gofrestr” (“the schedule”) yr ystyr a roddir gan adran 3;

mae “gwaith” (“works”) yn cynnwys—

(a)

gweithrediadau i foddi tir neu weithrediadau tipio,

(b)

unrhyw weithrediadau a gyflawnir at ddibenion amaethyddiaeth (o fewn ystyr “agriculture” yn Neddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (p. 8)) neu goedwigaeth (gan gynnwys coedwigo), ac

(c)

gweithrediadau o unrhyw ddisgrifiad arall;

mae “gwarcheidwad” (“guardian”) i’w ddehongli yn unol ag adrannau 45 a 49;

mae i “gwarchodaeth interim” (“interim protection”) yr ystyr a roddir gan adran 6(3);

mae i “gweithred warcheidiaeth” (“guardianship deed”) yr ystyr a roddir gan adran 45(7);

ystyr “gweithrediadau i foddi tir” (“flooding operations”) yw gorchuddio tir â dŵr neu â sylwedd arall sy’n hylifol neu’n rhannol hylifol;

ystyr “gweithrediadau tipio” (“tipping operations”) yw tipio pridd neu gloddion neu ddyddodi deunyddiau adeiladu neu ddeunyddiau eraill neu sylwedd adeiladu neu sylwedd arall (gan gynnwys gwastraff) ar unrhyw dir;

mae i “heneb o ddiddordeb hanesyddol arbennig” (“monument of special historic interest”) yr ystyr a roddir gan is-adran (6);

ystyr “hysbysiad gorfodi” (“enforcement notice”) yw hysbysiad gorfodi a ddyroddir o dan adran 35;

ystyr “hysbysiad stop dros dro” (“temporary stop notice”) yw hysbysiad stop dros dro a ddyroddir o dan adan 31;

mae “meddiant” (“possession”) yn cynnwys cael rhent ac elw neu’r hawl i gael rhent ac elw (os oes rhent neu elw);

mae i “ymchwiliad archaeolegol” (“archaeological investigation”) yr ystyr a roddir gan is-adran (2).

(2)

Yn y Rhan hon ystyr “ymchwiliad archaeolegol” yw unrhyw ymchwiliad o dir, o wrthrychau neu o ddeunydd arall at ddiben cael a chofnodi unrhyw wybodaeth o ddiddordeb archaeolegol neu hanesyddol ac mae’n cynnwys, yn achos ymchwiliad archaeolegol o dir—

(a)

unrhyw ymchwiliad at ddiben darganfod a datgelu a (phan fo’n briodol) adennill a symud ymaith unrhyw wrthrychau neu unrhyw ddeunydd arall o ddiddordeb archaeolegol neu hanesyddol yn y tir, arno neu odano, a

(b)

archwilio, profi, trin, cofnodi a diogelu unrhyw wrthrychau o’r fath neu unrhyw ddeunydd o’r fath a ddarganfyddir yng nghwrs unrhyw gloddiadau neu unrhyw arolygiadau a gynhelir at ddibenion unrhyw ymchwiliad o’r fath.

(3)

Yn y Rhan hon ystyr “archwiliad archaeolegol”, mewn perthynas â thir, yw unrhyw archwiliad neu unrhyw arolygiad o’r tir (gan gynnwys adeiladau neu strwythurau eraill ar y tir) at ddiben cael a chofnodi unrhyw wybodaeth o ddiddordeb archaeolegol neu hanesyddol.

(4)

Yn y Rhan hon (ac eithrio ym Mhennod 4) mae cyfeiriadau at dir sy’n gysylltiedig â heneb (neu at dir cysylltiedig) i’w dehongli yn unol ag adran 49(9).

(5)

Yn y Rhan hon mae cyfeiriadau at heneb, mewn perthynas â chaffael neu drosglwyddo unrhyw heneb (pa un ai o dan y Rhan hon neu fel arall), yn cynnwys unrhyw fuddiant yn yr heneb neu hawl drosti.

(6)

Yn y Rhan hon ystyr “heneb o ddiddordeb hanesyddol arbennig” yw—

(a)

unrhyw heneb gofrestredig, a

(b)

unrhyw heneb arall sy’n gyfan gwbl neu’n bennaf yng Nghymru y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod o ddiddordeb i’r cyhoedd oherwydd y diddordeb hanesyddol, pensaernïol, traddodiadol, artistig neu archaeolegol sy’n gysylltiedig â hi.

(7)

Ond nid yw’r cyfeiriad at heneb yn is-adran (6)(b) yn cynnwys heneb yn, ar neu o dan wely’r môr islaw’r marc distyll.