RHAN 2HENEBION O DDIDDORDEB HANESYDDOL ARBENNIG
PENNOD 7CYFFREDINOL
Atodol
73Cais i’r Uchel Lys am adolygiad statudol o benderfyniad neu orchymyn
(1)
Caiff person a dramgwyddir gan benderfyniad neu orchymyn y mae adran 72 yn gymwys iddo wneud cais am adolygiad statudol.
(2)
Mae cais am adolygiad statudol yn gais i’r Uchel Lys sy’n cwestiynu dilysrwydd y penderfyniad neu’r gorchymyn ar y sail—
(a)
nad yw o fewn y pwerau a roddir gan y Ddeddf hon, neu
(b)
na chydymffurfiwyd â gofyniad perthnasol mewn perthynas â’r penderfyniad neu’r gorchymyn.
(3)
Rhaid i gais am adolygiad statudol gael ei wneud cyn diwedd 6 wythnos sy’n dechrau â thrannoeth y diwrnod y gwneir y penderfyniad neu’r gorchymyn y mae’r cais yn ymwneud ag ef.
(4)
Ar unrhyw gais am adolygiad statudol, caiff yr Uchel Lys—
(a)
gwneud gorchymyn interim sy’n atal dros dro weithrediad y penderfyniad neu’r gorchymyn y mae’r cais yn ymwneud ag ef, hyd nes y penderfynir yn derfynol ar yr achos;
(b)
diddymu’r penderfyniad hwnnw neu’r gorchymyn hwnnw os yw wedi ei fodloni—
(i)
nad yw o fewn y pwerau a roddir gan y Ddeddf hon, neu
(ii)
bod methiant i gydymffurfio â gofyniad perthnasol mewn perthynas â’r penderfyniad neu’r gorchymyn wedi cael effaith andwyol sylweddol ar fuddiannau’r ceisydd.
(5)
Yn yr adran hon ystyr “gofyniad perthnasol” yw unrhyw ofyniad—
(b)
mewn unrhyw is-ddeddfwriaeth a wneir o dan y Ddeddf hon neu o dan y Ddeddf honno.