RHAN 2LL+CHENEBION O DDIDDORDEB HANESYDDOL ARBENNIG

PENNOD 7LL+CCYFFREDINOL

AtodolLL+C

72Dilysrwydd penderfyniadau a gorchmynion penodol o dan y Rhan honLL+C

(1)Ni chaniateir cwestiynu dilysrwydd penderfyniad neu orchymyn y mae’r adran hon yn gymwys iddo mewn unrhyw achos cyfreithiol ac eithrio cais am adolygiad statudol o dan adran 73.

(2)Y penderfyniadau y mae’r adran hon yn gymwys iddynt yw—

(a)penderfyniad gan Weinidogion Cymru ar gais am gydsyniad heneb gofrestredig, a

(b)penderfyniad ar adolygiad o dan adran 9.

(3)Mae’r adran hon yn gymwys i orchymyn o dan adran 20 sy’n addasu neu’n dirymu cydsyniad heneb gofrestredig.

(4)Nid yw’r adran hon yn atal unrhyw lys rhag arfer unrhyw awdurdodaeth mewn perthynas â gwrthodiad neu fethiant i wneud penderfyniad y mae’r adran hon yn gymwys iddo.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 72 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

I2A. 72 mewn grym ar 4.11.2024 gan O.S. 2024/860, ergl. 3(a)