RHAN 2HENEBION O DDIDDORDEB HANESYDDOL ARBENNIG

PENNOD 7CYFFREDINOL

Atodol

72Dilysrwydd penderfyniadau a gorchmynion penodol o dan y Rhan hon

(1)

Ni chaniateir cwestiynu dilysrwydd penderfyniad neu orchymyn y mae’r adran hon yn gymwys iddo mewn unrhyw achos cyfreithiol ac eithrio cais am adolygiad statudol o dan adran 73.

(2)

Y penderfyniadau y mae’r adran hon yn gymwys iddynt yw—

(a)

penderfyniad gan Weinidogion Cymru ar gais am gydsyniad heneb gofrestredig, a

(b)

penderfyniad ar adolygiad o dan adran 9.

(3)

Mae’r adran hon yn gymwys i orchymyn o dan adran 20 sy’n addasu neu’n dirymu cydsyniad heneb gofrestredig.

(4)

Nid yw’r adran hon yn atal unrhyw lys rhag arfer unrhyw awdurdodaeth mewn perthynas â gwrthodiad neu fethiant i wneud penderfyniad y mae’r adran hon yn gymwys iddo.