RHAN 2LL+CHENEBION O DDIDDORDEB HANESYDDOL ARBENNIG

PENNOD 7LL+CCYFFREDINOL

Pwerau mynediadLL+C

68Pŵer mynediad i gynnal arolwg a phrisiad mewn cysylltiad â hawliad am ddigollediadLL+C

(1)Caiff person awdurdodedig fynd ar unrhyw dir i gynnal arolwg ohono, neu i amcangyfrif ei werth, mewn cysylltiad â hawliad am ddigollediad o dan y Rhan hon am unrhyw ddifrod i’r tir hwnnw neu unrhyw dir arall.

(2)Yn yr adran hon ystyr “person awdurdodedig” yw—

(a)swyddog o Swyddfa Brisio Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi, neu

(b)person sydd wedi ei awdurdodi’n ysgrifenedig gan Weinidogion Cymru.

(3)Mae’r pŵer i gynnal arolwg o dir o dan yr adran hon yn cynnwys pŵer i chwilio a thurio i benderfynu natur yr isbridd neu i benderfynu a oes mwynau yn bresennol.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 68 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

I2A. 68 mewn grym ar 4.11.2024 gan O.S. 2024/860, ergl. 3(a)