RHAN 2HENEBION O DDIDDORDEB HANESYDDOL ARBENNIG

PENNOD 7CYFFREDINOL

Pwerau mynediad

68Pŵer mynediad i gynnal arolwg a phrisiad mewn cysylltiad â hawliad am ddigollediad

(1)

Caiff person awdurdodedig fynd ar unrhyw dir i gynnal arolwg ohono, neu i amcangyfrif ei werth, mewn cysylltiad â hawliad am ddigollediad o dan y Rhan hon am unrhyw ddifrod i’r tir hwnnw neu unrhyw dir arall.

(2)

Yn yr adran hon ystyr “person awdurdodedig” yw—

(a)

swyddog o Swyddfa Brisio Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi, neu

(b)

person sydd wedi ei awdurdodi’n ysgrifenedig gan Weinidogion Cymru.

(3)

Mae’r pŵer i gynnal arolwg o dir o dan yr adran hon yn cynnwys pŵer i chwilio a thurio i benderfynu natur yr isbridd neu i benderfynu a oes mwynau yn bresennol.