RHAN 2HENEBION O DDIDDORDEB HANESYDDOL ARBENNIG
PENNOD 7CYFFREDINOL
Pwerau mynediad
67Pŵer mynediad i dir y credir ei fod yn cynnwys heneb o ddiddordeb hanesyddol arbennig
(1)
Caiff person awdurdodedig fynd ar unrhyw dir y mae Gweinidogion Cymru yn gwybod neu y mae ganddynt reswm dros gredu bod heneb o ddiddordeb hanesyddol arbennig ynddo, arno neu odano er mwyn arolygu’r tir (gan gynnwys unrhyw adeilad neu unrhyw strwythur arall arno) gyda golwg ar gofnodi unrhyw faterion o ddiddordeb archaeolegol neu hanesyddol.
(2)
Caiff person awdurdodedig sy’n mynd ar unrhyw dir wrth arfer y pŵer yn is-adran (1) gynnal cloddiadau yn y tir at ddibenion ymchwiliad archaeolegol.
(3)
Er mwyn cynnal cloddiad o dan is-adran (2) mae’n ofynnol cael cytundeb pob person y byddai’n ofynnol cael ei gytundeb i wneud y cloddiad ar wahân i’r adran hon.
(4)
Ond nid yw is-adran (3) yn gymwys os yw Gweinidogion Cymru yn gwybod neu os oes ganddynt reswm dros gredu bod heneb o ddiddordeb hanesyddol arbennig y maent yn gwybod neu’n credu ei bod yn y tir, arno neu odano mewn perygl, neu’n gallu bod mewn perygl, o fod ar fin cael ei difrodi neu ei dinistrio.
(5)
Yn yr adran hon ystyr “person awdurdodedig” yw person sydd wedi ei awdurdodi’n ysgrifenedig gan Weinidogion Cymru