(1)Caiff person awdurdodedig fynd ar unrhyw dir—
(a)i benderfynu a ddylai hysbysiad stop dros dro gael ei ddyroddi;
(b)i arddangos copi o hysbysiad stop dros dro yn unol ag adran 31 neu ei osod yn sownd at ddiben ei gyflwyno yn unol ag adran 206(5)(c);
(c)i asesu a gydymffurfiwyd â hysbysiad stop dros dro.
(2)Caiff person awdurdodedig fynd ar unrhyw dir—
(a)i benderfynu a ddylai hysbysiad gorfodi gael ei ddyroddi;
(b)i osod hysbysiad gorfodi yn sownd at ddiben ei gyflwyno yn unol ag adran 206(5)(c);
(c)i asesu a gydymffurfiwyd â hysbysiad gorfodi.
(3)Yn yr adran hon ystyr “person awdurdodedig” yw person sydd wedi ei awdurdodi’n ysgrifenedig gan Weinidogion Cymru.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 66 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)
I2A. 66 mewn grym ar 4.11.2024 gan O.S. 2024/860, ergl. 3(a)