RHAN 2HENEBION O DDIDDORDEB HANESYDDOL ARBENNIG
PENNOD 7CYFFREDINOL
Pwerau mynediad
66Pwerau mynediad sy’n ymwneud â gorfodi rheolaethau ar waith
(1)
Caiff person awdurdodedig fynd ar unrhyw dir—
(a)
i benderfynu a ddylai hysbysiad stop dros dro gael ei ddyroddi;
(b)
i arddangos copi o hysbysiad stop dros dro yn unol ag adran 31 neu ei osod yn sownd at ddiben ei gyflwyno yn unol ag adran 206(5)(c);
(c)
i asesu a gydymffurfiwyd â hysbysiad stop dros dro.
(2)
Caiff person awdurdodedig fynd ar unrhyw dir—
(a)
i benderfynu a ddylai hysbysiad gorfodi gael ei ddyroddi;
(b)
i osod hysbysiad gorfodi yn sownd at ddiben ei gyflwyno yn unol ag adran 206(5)(c);
(c)
i asesu a gydymffurfiwyd â hysbysiad gorfodi.
(3)
Yn yr adran hon ystyr “person awdurdodedig” yw person sydd wedi ei awdurdodi’n ysgrifenedig gan Weinidogion Cymru.