RHAN 2HENEBION O DDIDDORDEB HANESYDDOL ARBENNIG

PENNOD 7CYFFREDINOL

Pwerau mynediad

65Pwerau mynediad i arolygu henebion cofrestredig etc.

(1)

Caiff person awdurdodedig fynd ar unrhyw dir i arolygu heneb gofrestredig yn y tir, arno neu odano i asesu ei chyflwr ac i asesu—

(a)

a oes unrhyw waith sy’n effeithio ar yr heneb yn cael ei gyflawni yn groes i adran 11 (gofyniad i waith gael ei awdurdodi), neu

(b)

a yw wedi cael ei difrodi neu’n debygol o gael ei difrodi (gan waith o’r fath neu fel arall).

(2)

Caiff person awdurdodedig fynd ar unrhyw dir i arolygu heneb gofrestredig yn y tir, arno neu odano mewn cysylltiad—

(a)

â chais am gydsyniad heneb gofrestredig ar gyfer gwaith sy’n effeithio ar yr heneb honno,

(b)

â chynnig i addasu neu ddirymu cydsyniad heneb gofrestredig ar gyfer unrhyw waith o’r fath, neu

(c)

â chynnig i wneud gorchymyn o dan adran 27 (terfynu cytundeb partneriaeth heneb gofrestredig neu ddarpariaeth mewn cytundeb).

(3)

Caiff person awdurdodedig fynd ar unrhyw dir i asesu a yw unrhyw waith y mae cydsyniad heneb gofrestredig neu awdurdodiad o dan adran 12 yn ymwneud ag ef yn cael ei gyflawni neu wedi cael ei gyflawni yn unol â thelerau’r cydsyniad neu’r awdurdodiad (gan gynnwys unrhyw amodau).

(4)

Caiff person awdurdodedig fynd ar unrhyw dir y mae unrhyw waith y mae cydsyniad heneb gofrestredig neu awdurdodiad o dan adran 12 yn ymwneud ag ef yn cael ei gyflawni arno er mwyn—

(a)

arolygu’r tir (gan gynnwys unrhyw adeiladau neu unrhyw strwythurau eraill ar y tir) i gofnodi unrhyw faterion o ddiddordeb archaeolegol neu hanesyddol, neu

(b)

arsylwi ar y gwaith hwnnw yn cael ei gyflawni gyda golwg—

(i)

ar archwilio a chofnodi unrhyw wrthrychau neu unrhyw ddeunydd arall o ddiddordeb archaeolegol neu hanesyddol a ddarganfyddir yng nghwrs y gwaith hwnnw, a

(ii)

ar gofnodi unrhyw faterion o ddiddordeb archaeolegol neu hanesyddol a ddarganfyddir yng nghwrs y gwaith hwnnw.

(5)

Caiff person awdurdodedig fynd ar unrhyw dir y mae heneb gofrestredig ynddo, arno neu odano i godi a chynnal ar safle’r heneb neu gerllaw iddo unrhyw hysbysfyrddau ac unrhyw byst marcio y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn ddymunol i warchod yr heneb rhag difrod damweiniol neu fwriadol.

(6)

Ni chaniateir i’r pŵer yn is-adran (5) gael ei arfer heb gytundeb pob perchennog a phob meddiannydd ar y tir.

(7)

Yn yr adran hon ystyr “person awdurdodedig” yw person sydd wedi ei awdurdodi’n ysgrifenedig gan Weinidogion Cymru.