RHAN 2HENEBION O DDIDDORDEB HANESYDDOL ARBENNIG
PENNOD 7CYFFREDINOL
Gwariant a chyngor mewn perthynas â henebion
64Gwariant gan awdurdodau lleol ar ymchwiliad archaeolegol
(1)
Os yw awdurdod lleol yn ystyried y gall unrhyw dir yn ei ardal neu yng nghyffiniau ei ardal gynnwys heneb o ddiddordeb hanesyddol arbennig, neu unrhyw beth arall o ddiddordeb archaeolegol neu hanesyddol, caiff yr awdurdod—
(a)
cynnal ymchwiliad archaeolegol o’r tir neu gynorthwyo mewn ymchwiliad o’r fath, neu
(b)
talu cost ymchwiliad archaeolegol o’r tir neu gyfrannu tuag at y gost honno.
(2)
Caiff awdurdod lleol gyhoeddi canlyniadau unrhyw ymchwiliad archaeolegol a gynhelir ganddo, a gynorthwyir ganddo neu a gyllidir yn gyfan gwbl neu’n rhannol ganddo o dan yr adran hon.
(3)
Caniateir i’r pwerau yn is-adran (1) gael eu harfer mewn perthynas ag unrhyw dir sy’n ffurfio rhan o wely’r môr o fewn terfynau atfor y môr tiriogaethol sy’n gyfagos i Gymru.