RHAN 2LL+CHENEBION O DDIDDORDEB HANESYDDOL ARBENNIG

PENNOD 7LL+CCYFFREDINOL

Gwariant a chyngor mewn perthynas â henebionLL+C

63Cyngor gan Weinidogion Cymru a goruchwylio gwaith ganddyntLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru roi cyngor ynghylch trin unrhyw heneb o ddiddordeb hanesyddol arbennig.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru hefyd oruchwylio unrhyw waith mewn cysylltiad ag unrhyw heneb o ddiddordeb hanesyddol arbennig os ydynt yn cael eu gwahodd i wneud hynny gan berchennog ar yr heneb.

(3)Rhaid i Weinidogion Cymru oruchwylio gwaith mewn cysylltiad ag unrhyw heneb gofrestredig, os ydynt yn ystyried bod hynny yn ddoeth (pa un a yw perchennog yn gofyn iddynt wneud hynny ai peidio).

(4)Caiff Gweinidogion Cymru godi tâl am roi cyngor neu oruchwylio gwaith o dan yr adran hon.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 63 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

I2A. 63 mewn grym ar 4.11.2024 gan O.S. 2024/860, ergl. 3(a)