RHAN 2HENEBION O DDIDDORDEB HANESYDDOL ARBENNIG
PENNOD 7CYFFREDINOL
Gwariant a chyngor mewn perthynas â henebion
63Cyngor gan Weinidogion Cymru a goruchwylio gwaith ganddynt
(1)
Caiff Gweinidogion Cymru roi cyngor ynghylch trin unrhyw heneb o ddiddordeb hanesyddol arbennig.
(2)
Caiff Gweinidogion Cymru hefyd oruchwylio unrhyw waith mewn cysylltiad ag unrhyw heneb o ddiddordeb hanesyddol arbennig os ydynt yn cael eu gwahodd i wneud hynny gan berchennog ar yr heneb.
(3)
Rhaid i Weinidogion Cymru oruchwylio gwaith mewn cysylltiad ag unrhyw heneb gofrestredig, os ydynt yn ystyried bod hynny yn ddoeth (pa un a yw perchennog yn gofyn iddynt wneud hynny ai peidio).
(4)
Caiff Gweinidogion Cymru godi tâl am roi cyngor neu oruchwylio gwaith o dan yr adran hon.