RHAN 2HENEBION O DDIDDORDEB HANESYDDOL ARBENNIG
PENNOD 7CYFFREDINOL
Gwariant a chyngor mewn perthynas â henebion
62Gwariant ar gaffael a diogelu henebion o ddiddordeb hanesyddol arbennig etc.
(1)
Caiff Gweinidogion Cymru dalu cost caffael unrhyw heneb o ddiddordeb hanesyddol arbennig gan unrhyw berson, neu gyfrannu tuag at y gost honno.
(2)
Caiff Gweinidogion Cymru—
(a)
symud ymaith neu gynorthwyo i symud ymaith unrhyw heneb o ddiddordeb hanesyddol arbennig neu unrhyw ran o unrhyw heneb o’r fath i fan arall at ddiben ei diogelu;
(b)
talu cost symud ymaith unrhyw heneb o’r fath neu unrhyw ran o unrhyw heneb o’r fath i fan arall at ddiben ei diogelu, neu gyfrannu tuag at y gost honno.
(3)
Caiff Gweinidogion Cymru, ar gais perchennog ar unrhyw heneb o ddiddordeb hanesyddol arbennig—
(a)
ymgymryd â gwaith i ddiogelu, cynnal a chadw a rheoli’r heneb neu gynorthwyo’r gwaith hwnnw;
(b)
talu am gost diogelu, cynnal a chadw a rheoli’r heneb, neu gyfrannu tuag at y gost honno.
(4)
Caiff Gweinidogion Cymru gyfrannu tuag at gost darparu cyfleusterau neu wasanaethau i’r cyhoedd gan awdurdod lleol o dan adran 57.
(5)
Caiff awdurdod lleol, ar gais perchennog ar unrhyw heneb o ddiddordeb hanesyddol arbennig yn ei ardal neu yng nghyffiniau ei ardal—
(a)
ymgymryd â gwaith i ddiogelu, cynnal a chadw a rheoli’r heneb neu gynorthwyo’r gwaith hwnnw;
(b)
talu am gost diogelu, cynnal a chadw a rheoli’r heneb, neu gyfrannu tuag at y gost honno.
(6)
Ni chaiff Gweinidogion Cymru nac awdurdod lleol fynd i wariant o dan yr adran hon mewn cysylltiad ag unrhyw adeilad neu unrhyw strwythur a feddiennir fel annedd gan unrhyw berson ac eithrio gofalwr yr adeilad neu’r strwythur neu aelod o deulu’r gofalwr.