RHAN 2HENEBION O DDIDDORDEB HANESYDDOL ARBENNIG

PENNOD 7CYFFREDINOL

Gwariant a chyngor mewn perthynas â henebion

62Gwariant ar gaffael a diogelu henebion o ddiddordeb hanesyddol arbennig etc.

(1)Caiff Gweinidogion Cymru dalu cost caffael unrhyw heneb o ddiddordeb hanesyddol arbennig gan unrhyw berson, neu gyfrannu tuag at y gost honno.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru—

(a)symud ymaith neu gynorthwyo i symud ymaith unrhyw heneb o ddiddordeb hanesyddol arbennig neu unrhyw ran o unrhyw heneb o’r fath i fan arall at ddiben ei diogelu;

(b)talu cost symud ymaith unrhyw heneb o’r fath neu unrhyw ran o unrhyw heneb o’r fath i fan arall at ddiben ei diogelu, neu gyfrannu tuag at y gost honno.

(3)Caiff Gweinidogion Cymru, ar gais perchennog ar unrhyw heneb o ddiddordeb hanesyddol arbennig—

(a)ymgymryd â gwaith i ddiogelu, cynnal a chadw a rheoli’r heneb neu gynorthwyo’r gwaith hwnnw;

(b)talu am gost diogelu, cynnal a chadw a rheoli’r heneb, neu gyfrannu tuag at y gost honno.

(4)Caiff Gweinidogion Cymru gyfrannu tuag at gost darparu cyfleusterau neu wasanaethau i’r cyhoedd gan awdurdod lleol o dan adran 57.

(5)Caiff awdurdod lleol, ar gais perchennog ar unrhyw heneb o ddiddordeb hanesyddol arbennig yn ei ardal neu yng nghyffiniau ei ardal—

(a)ymgymryd â gwaith i ddiogelu, cynnal a chadw a rheoli’r heneb neu gynorthwyo’r gwaith hwnnw;

(b)talu am gost diogelu, cynnal a chadw a rheoli’r heneb, neu gyfrannu tuag at y gost honno.

(6)Ni chaiff Gweinidogion Cymru nac awdurdod lleol fynd i wariant o dan yr adran hon mewn cysylltiad ag unrhyw adeilad neu unrhyw strwythur a feddiennir fel annedd gan unrhyw berson ac eithrio gofalwr yr adeilad neu’r strwythur neu aelod o deulu’r gofalwr.