RHAN 2HENEBION O DDIDDORDEB HANESYDDOL ARBENNIG

PENNOD 7CYFFREDINOL

Gwaith brys ar gyfer diogelu heneb gofrestredig

61Gwaith ar gyfer diogelu heneb gofrestredig mewn achosion brys

(1)

Os yw’n ymddangos i Weinidogion Cymru fod unrhyw waith y mae adran 11 (gofyniad i waith gael ei awdurdodi) yn gymwys iddo yn angenrheidiol ar frys i ddiogelu heneb gofrestredig, cânt fynd i safle’r heneb a chyflawni’r gwaith hwnnw.

(2)

Cyn arfer y pŵer yn is-adran (1) rhaid i Weinidogion Cymru roi o leiaf 7 niwrnod clir o rybudd yn ysgrifenedig i bob perchennog a phob meddiannydd ar yr heneb.

(3)

Pan fo Gweinidogion Cymru yn cyflawni gwaith o dan yr adran hon ar gyfer atgyweirio unrhyw ddifrod i heneb gofrestredig—

(a)

mae unrhyw orchymyn digolledu a wnaed yn flaenorol mewn cysylltiad â’r difrod hwnnw o dan Bennod 2 o Ran 7 o’r Cod Dedfrydu o blaid unrhyw berson arall yn orfodadwy (i’r graddau na chydymffurfiwyd ag ef eisoes) fel pe bai wedi ei wneud o blaid Gweinidogion Cymru, a

(b)

rhaid i unrhyw orchymyn o’r fath a wneir wedyn mewn cysylltiad â’r difrod hwnnw gael ei wneud o blaid Gweinidogion Cymru.

(4)

Pan fo gwaith yn cael ei gyflawni o dan yr adran hon, mae’r gwaith i’w drin fel pe bai’n waith awdurdodedig at ddibenion Pennod 3 (rheolaethu gwaith sy’n effeithio ar henebion cofrestredig).