RHAN 2HENEBION O DDIDDORDEB HANESYDDOL ARBENNIG

PENNOD 7CYFFREDINOL

Difrodi henebion

60Cyfyngiadau ar y defnydd o ddatgelyddion metel

(1)

Yn yr adran hon—

ystyr “cydsyniad” (“consent”) yw cydsyniad ysgrifenedig Gweinidogion Cymru;

ystyr “datgelydd metel” (“metal detector”) yw unrhyw ddyfais sydd wedi ei dylunio neu ei haddasu i ganfod neu leoli unrhyw fetel neu unrhyw fwyn yn y ddaear;

ystyr “man gwarchodedig” (“protected place”) yw—

(a)

safle unrhyw heneb gofrestredig, neu

(b)

safle unrhyw heneb sydd o dan berchnogaeth neu warcheidiaeth Gweinidogion Cymru neu awdurdod lleol yn rhinwedd Pennod 6.

(2)

Mae person yn cyflawni trosedd os yw’r person yn defnyddio datgelydd metel mewn man gwarchodedig heb gydsyniad i wneud hynny.

(3)

Mae person y rhoddwyd cydsyniad iddo i ddefnyddio datgelydd metel mewn man gwarchodedig yn cyflawni trosedd os yw’r person, wrth ddefnyddio’r datgelydd metel yn y man hwnnw, yn methu â chydymffurfio ag unrhyw amod sydd ynghlwm wrth y cydsyniad.

(4)

Mae person yn cyflawni trosedd os yw’r person, heb gydsyniad i wneud hynny, yn symud ymaith unrhyw wrthrych o ddiddordeb archaeolegol neu hanesyddol y mae’r person wedi ei ddarganfod drwy ddefnyddio datgelydd metel mewn man gwarchodedig.

(5)

Mae person y rhoddwyd cydsyniad iddo i symud ymaith unrhyw wrthrych, neu i ymdrin fel arall ag unrhyw wrthrych, y mae’r person yn ei ddarganfod drwy ddefnyddio datgelydd metel mewn man gwarchodedig yn cyflawni trosedd os yw’r person, wrth symud ymaith y gwrthrych neu wrth ymdrin fel arall ag ef, yn methu â chydymffurfio ag unrhyw amod sydd ynghlwm wrth y cydsyniad.

(6)

Mewn unrhyw achos am drosedd o dan is-adran (2) mae’n amddiffyniad i berson brofi iddo ddefnyddio’r datgelydd metel at ddiben ac eithrio i ganfod neu leoli gwrthrychau o ddiddordeb archaeolegol neu hanesyddol.

(7)

Mewn unrhyw achos am drosedd o dan is-adran (2) neu (4) mae’n amddiffyniad i berson brofi—

(a)

ei fod wedi cymryd pob cam rhesymol i ganfod a oedd y man lle y defnyddiwyd y datgelydd metel yn fan gwarchodedig, a

(b)

nad oedd yn gwybod, ac nad oedd ganddo reswm dros gredu, bod y man yn fan gwarchodedig.

(8)

Mae person sy’n euog o drosedd o dan is-adran (2) neu (3) yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy nad yw’n uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol.

(9)

Mae person sy’n euog o drosedd o dan is-adran (4) neu (5) yn agored ar euogfarn ddiannod, neu ar euogfarn ar dditiad, i ddirwy.