(1)Mae is-adran (2) yn gymwys pan fo perchennog neu unrhyw berson arall yn cael ei euogfarnu o drosedd sy’n ymwneud â difrod i heneb a oedd ar adeg y drosedd o dan warcheidiaeth Gweinidogion Cymru neu unrhyw awdurdod lleol yn rhinwedd Pennod 6.
(2)Mae unrhyw orchymyn digolledu a wneir o dan Bennod 2 o Ran 7 o’r Cod Dedfrydu (gorchmynion digolledu yn erbyn personau a euogfarnwyd) mewn cysylltiad â’r difrod hwnnw i’w wneud o blaid Gweinidogion Cymru neu’r awdurdod lleol o dan sylw (yn ôl gofynion yr achos).
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 59 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)
I2A. 59 mewn grym ar 4.11.2024 gan O.S. 2024/860, ergl. 3(a)