RHAN 2HENEBION O DDIDDORDEB HANESYDDOL ARBENNIG

PENNOD 7CYFFREDINOL

Difrodi henebion

59Gorchmynion digolledu am ddifrod i henebion sydd o dan warcheidiaeth

(1)

Mae is-adran (2) yn gymwys pan fo perchennog neu unrhyw berson arall yn cael ei euogfarnu o drosedd sy’n ymwneud â difrod i heneb a oedd ar adeg y drosedd o dan warcheidiaeth Gweinidogion Cymru neu unrhyw awdurdod lleol yn rhinwedd Pennod 6.

(2)

Mae unrhyw orchymyn digolledu a wneir o dan Bennod 2 o Ran 7 o’r Cod Dedfrydu (gorchmynion digolledu yn erbyn personau a euogfarnwyd) mewn cysylltiad â’r difrod hwnnw i’w wneud o blaid Gweinidogion Cymru neu’r awdurdod lleol o dan sylw (yn ôl gofynion yr achos).