RHAN 2HENEBION O DDIDDORDEB HANESYDDOL ARBENNIG

PENNOD 7CYFFREDINOL

Difrodi henebion

58Y drosedd o ddifrodi henebion penodol o ddiddordeb hanesyddol arbennig

(1)

Mae person sy’n dinistrio neu’n difrodi heneb warchodedig heb esgus cyfreithlon yn euog o drosedd os oedd y person—

(a)

yn gwybod neu os dylai’n rhesymol fod wedi gwybod bod yr heneb yn heneb warchodedig, a

(b)

yn bwriadu dinistrio neu ddifrodi’r heneb neu’n ddi-hid o ran a fyddai’r heneb yn cael ei difrodi neu ei dinistrio.

(2)

Yn is-adran (1) ystyr “heneb warchodedig” yw—

(a)

heneb gofrestredig, neu

(b)

heneb sydd o dan berchnogaeth neu warcheidiaeth Gweinidogion Cymru neu awdurdod lleol yn rhinwedd y Bennod hon.

(3)

Mae’r adran hon yn gymwys i unrhyw beth a wneir gan neu o dan awdurdod perchennog yr heneb, ac eithrio gweithred ar gyfer cyflawni gwaith a eithrir, fel y mae’n gymwys i unrhyw beth a wneir gan unrhyw berson arall.

(4)

Yn is-adran (3) ystyr “gwaith a eithrir” yw—

(a)

gwaith sydd wedi ei awdurdodi o dan Bennod 3;

(b)

gwaith y mae cydsyniad datblygu wedi ei roi ar ei gyfer o dan Ddeddf Cynllunio 2008 (p. 29).

(5)

Mae person sy’n euog o drosedd o dan yr adran hon yn agored—

(a)

ar euogfarn ddiannod, i ddirwy neu i’w garcharu am gyfnod nad yw’n hwy na’r terfyn cymwys o dan adran 224(1A)(b) o’r Cod Dedfrydu, neu’r ddau;

(b)

ar euogfarn ar dditiad, i ddirwy neu i’w garcharu am gyfnod nad yw’n hwy na 2 flynedd, neu’r ddau.