RHAN 2HENEBION O DDIDDORDEB HANESYDDOL ARBENNIG

PENNOD 6CAFFAEL, GWARCHEIDIAETH A MYNEDIAD Y CYHOEDD

Mynediad y cyhoedd i henebion sydd o dan reolaeth gyhoeddus

57Darparu cyfleusterau i’r cyhoedd mewn cysylltiad â henebion o ddiddordeb hanesyddol arbennig

(1)

Caiff Gweinidogion Cymru ddarparu cyfleusterau, gwybodaeth a gwasanaethau eraill i’r cyhoedd ar gyfer darparu mynediad y cyhoedd neu mewn cysylltiad â darparu mynediad y cyhoedd—

(a)

i unrhyw heneb sydd o dan eu perchnogaeth neu eu gwarcheidiaeth yn rhinwedd y Bennod hon, neu

(b)

i unrhyw heneb sydd fel arall yn cael ei rheolaethu neu ei rheoli ganddynt.

(2)

Caiff awdurdod lleol ddarparu cyfleusterau, gwybodaeth a gwasanaethau eraill i’r cyhoedd ar gyfer darparu mynediad y cyhoedd i unrhyw heneb sydd o dan ei berchnogaeth neu ei warcheidiaeth yn rhinwedd y Bennod hon neu mewn cysylltiad â darparu mynediad o’r fath.

(3)

Caniateir i gyfleusterau a gwybodaeth neu wasanaethau eraill i’r cyhoedd gael eu darparu o dan yr adran hon yn yr heneb ei hun neu arni neu ar unrhyw dir sy’n gysylltiedig â’r heneb.

(4)

Caiff Gweinidogion Cymru neu awdurdod lleol godi tâl am ddefnyddio unrhyw gyfleuster neu unrhyw wasanaeth a ddarperir ganddynt neu ganddo o dan yr adran hon.