RHAN 2HENEBION O DDIDDORDEB HANESYDDOL ARBENNIG
PENNOD 6CAFFAEL, GWARCHEIDIAETH A MYNEDIAD Y CYHOEDD
Mynediad y cyhoedd i henebion sydd o dan reolaeth gyhoeddus
56Pŵer i wneud rheoliadau ac is-ddeddfau mewn cysylltiad â mynediad y cyhoedd i henebion sydd o dan reolaeth gyhoeddus
(1)
Caiff Gweinidogion Cymru reoleiddio mynediad y cyhoedd i unrhyw heneb sydd o dan eu perchnogaeth neu eu gwarcheidiaeth yn rhinwedd y Bennod hon drwy wneud rheoliadau sy’n gwahardd neu’n rheoleiddio unrhyw weithred neu unrhyw beth sy’n debygol o ddifrodi’r heneb neu ei hamwynderau neu darfu ar y cyhoedd yn eu mwynhad ohoni.
(2)
Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) hefyd wneud darpariaeth mewn perthynas ag unrhyw heneb sy’n cael ei rheolaethu neu ei rheoli gan Weinidogion Cymru ac eithrio yn rhinwedd y Bennod hon.
(3)
Caiff awdurdod lleol reoleiddio mynediad y cyhoedd i unrhyw heneb sydd o dan ei berchnogaeth neu ei warcheidiaeth yn rhinwedd y Bennod hon drwy wneud is-ddeddfau sy’n gwahardd neu’n rheoleiddio unrhyw weithred neu unrhyw beth sy’n debygol o ddifrodi’r heneb neu ei hamwynderau neu darfu ar y cyhoedd yn eu mwynhad ohoni.
(4)
Mae person sy’n methu â chydymffurfio â darpariaeth a wneir gan reoliadau neu is-ddeddfau o dan yr adran hon yn cyflawni trosedd.
(5)
Mae person sy’n euog o drosedd o dan is-adran (4) yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy nad yw’n uwch na lefel 2 ar y raddfa safonol.
(6)
Caiff is-ddeddfau a wneir o dan yr adran hon wneud darpariaeth wahanol mewn perthynas â henebion gwahanol neu ddisgrifiadau gwahanol o heneb.
(7)
Nid yw is-ddeddfau o dan yr adran hon yn cymryd effaith oni chânt eu cadarnhau gan Weinidogion Cymru.
(8)
Caiff Gweinidogion Cymru gadarnhau’r is-ddeddfau gydag addasiadau neu hebddynt.