(1)Rhaid i Weinidogion Cymru ac unrhyw awdurdod lleol sicrhau bod gan y cyhoedd fynediad i unrhyw heneb sydd o dan eu perchnogaeth neu warcheidiaeth neu ei berchnogaeth neu warcheidiaeth yn rhinwedd y Bennod hon; ond mae hyn yn ddarostyngedig—
(a)i’r darpariaethau a ganlyn yn yr adran hon,
(b)i unrhyw reoliadau neu is-ddeddfau a wneir o dan adran 56, ac
(c)i unrhyw ddarpariaeth i’r gwrthwyneb sydd wedi ei chynnwys mewn unrhyw gytundeb sy’n ymwneud â’r heneb a wneir o dan adran 25 neu 51 (cytundebau partneriaethau henebion cofrestredig a chytundebau rheoli).
(2)Mewn perthynas ag unrhyw heneb o dan warcheidiaeth, mae’r ddyletswydd a osodir gan is-adran (1) hefyd yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaeth i’r gwrthwyneb yn y weithred warcheidiaeth.
(3)Mae cyfeiriadau yn yr is-adrannau a ganlyn at heneb—
(a)mewn perthynas â Gweinidogion Cymru, yn gyfeiriadau at heneb—
(i)sydd o dan eu perchnogaeth neu eu gwarcheidiaeth yn rhinwedd y Bennod hon;
(ii)sy’n cael ei rheolaethu neu ei rheoli ganddynt ac eithrio yn rhinwedd y Bennod hon;
(b)mewn perthynas ag awdurdod lleol, yn gyfeiriadau at heneb sydd o dan ei berchnogaeth neu ei warcheidiaeth yn rhinwedd y Bennod hon.
(4)Caiff Gweinidogion Cymru neu awdurdod lleol reolaethu amseroedd arferol mynediad y cyhoedd i heneb.
(5)Caiff Gweinidogion Cymru neu awdurdod lleol atal y cyhoedd rhag cael mynediad i heneb, neu i unrhyw ran ohoni, am unrhyw gyfnod y maent neu y mae’n ystyried ei fod yn angenrheidiol—
(a)er lles diogelwch;
(b)ar gyfer ei chynnal a’i chadw neu ei diogelu;
(c)mewn cysylltiad â digwyddiadau a gynhelir neu weithgareddau eraill wedi eu trefnu a gyflawnir ynddi neu arni.
(6)Caiff Gweinidogion Cymru neu awdurdod lleol hefyd osod cyfyngiadau a rheolaethau eraill ar fynediad y cyhoedd i heneb, neu i unrhyw ran ohoni, at ddiben a grybwyllir yn is-adran (5).
(7)Caiff Gweinidogion Cymru neu awdurdod lleol godi tâl ar y cyhoedd am fynediad i heneb.
(8)Caiff Gweinidogion Cymru neu awdurdod lleol wrthod mynediad i berson i heneb os oes ganddynt neu ganddo reswm dros gredu bod y person yn debygol o wneud unrhyw beth sy’n debygol o ddifrodi’r heneb neu ei hamwynderau neu darfu ar y cyhoedd yn eu mwynhad ohoni.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 55 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)
I2A. 55 mewn grym ar 4.11.2024 gan O.S. 2024/860, ergl. 3(a)