RHAN 2HENEBION O DDIDDORDEB HANESYDDOL ARBENNIG

PENNOD 6CAFFAEL, GWARCHEIDIAETH A MYNEDIAD Y CYHOEDD

Trosglwyddo perchnogaeth neu warcheidiaeth a gwaredu tir

54Gwaredu tir a gaffaelir o dan y Bennod hon

(1)

Caiff Gweinidogion Cymru waredu unrhyw dir a gaffaelir ganddynt o dan adran 43, 44 neu 53.

(2)

Caiff awdurdod lleol waredu unrhyw dir a gaffaelir ganddo o dan adran 44 neu 53, ond rhaid iddo ymgynghori â Gweinidogion Cymru cyn gwneud hynny.

(3)

Pan fo’r tir a waredir o dan yr adran hon yn heneb neu’n cynnwys heneb, rhaid i’r gwarediad gael ei wneud ar delerau y mae’r person sy’n gwaredu’r tir yn ystyried y byddant yn sicrhau y caiff yr heneb ei diogelu.

(4)

Ond nid yw is-adran (3) yn gymwys os yw’r person sy’n gwaredu’r tir yn ystyried nad yw’n ymarferol diogelu’r heneb mwyach (pa un ai oherwydd y gost o’i diogelu neu fel arall).