RHAN 2HENEBION O DDIDDORDEB HANESYDDOL ARBENNIG
PENNOD 6CAFFAEL, GWARCHEIDIAETH A MYNEDIAD Y CYHOEDD
Trosglwyddo perchnogaeth neu warcheidiaeth a gwaredu tir
53Trosglwyddo henebion o ddiddordeb hanesyddol arbennig rhwng awdurdodau lleol a Gweinidogion Cymru
(1)
Pan fo Gweinidogion Cymru yn berchnogion neu’n warcheidwaid heneb neu dir cysylltiedig, cânt drosglwyddo perchnogaeth neu warcheidiaeth yr heneb honno neu’r tir hwnnw i unrhyw awdurdod lleol.
(2)
Pan fo awdurdod lleol yn berchennog neu’n warcheidwad heneb neu dir cysylltiedig, caiff drosglwyddo perchnogaeth neu warcheidiaeth yr heneb honno neu’r tir hwnnw—
(a)
i Weinidogion Cymru, neu
(b)
i awdurdod lleol arall.
(3)
Ond ni chaiff Gweinidogion Cymru nac awdurdod lleol drosglwyddo gwarcheidiaeth heneb neu dir cysylltiedig o dan yr adran hon heb gytundeb y personau y mae gweithrediad y weithred warcheidiaeth, am y tro, yn cael effaith uniongyrchol arnynt.
(4)
At ddibenion is-adran (3) mae gweithrediad gweithred warcheidiaeth sy’n ymwneud â heneb neu dir yn cael effaith uniongyrchol ar berson os yw’r person wedi ei rwymo gan y weithred honno a bod yr heneb neu’r tir yn ei feddiant neu yn ei feddiannaeth.