RHAN 2HENEBION O DDIDDORDEB HANESYDDOL ARBENNIG

PENNOD 2COFRESTR O HENEBION O BWYSIGRWYDD CENEDLAETHOL

Cynigion i ychwanegu heneb at y gofrestr neu ddileu heneb o’r gofrestr: ymgynghori a gwarchodaeth interim

5Ymgynghori cyn ychwanegu heneb at y gofrestr neu ddileu heneb o’r gofrestr

(1)

Mae is-adran (2) yn gymwys pan fo Gweinidogion Cymru yn cynnig diwygio’r gofrestr—

(a)

drwy ychwanegu heneb,

(b)

drwy ddileu heneb, neu

(c)

drwy ddiwygio’r cofnod ar gyfer heneb i ddileu unrhyw beth a gynhwyswyd yn flaenorol fel rhan o’r heneb neu ychwanegu unrhyw beth nas cynhwyswyd yn flaenorol.

(2)

Rhaid i Weinidogion Cymru gyflwyno hysbysiad i’r personau a grybwyllir yn is-adran (3)—

(a)

sy’n nodi’r diwygiad arfaethedig, a

(b)

sy’n gwahodd y personau hynny i gyflwyno sylwadau ysgrifenedig ynghylch y cynnig.

(3)

Y personau yw—

(a)

pob perchennog a phob meddiannydd ar yr heneb,

(b)

pob awdurdod lleol y mae’r heneb yn ei ardal, ac

(c)

unrhyw bersonau eraill y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol gan fod ganddynt wybodaeth arbennig am yr heneb neu am henebion o ddiddordeb hanesyddol neu archaeolegol yn fwy cyffredinol, neu ddiddordeb arbennig ynddi neu ynddynt.

(4)

Rhaid i hysbysiad o dan is-adran (2)—

(a)

pennu o fewn pa gyfnod y caniateir cyflwyno sylwadau, a

(b)

yn achos cynnig i ychwanegu heneb neu i ychwanegu unrhyw beth fel rhan o heneb—

(i)

cynnwys datganiad o effaith adran 6 (gwarchodaeth interim), a

(ii)

pennu’r dyddiad y mae gwarchodaeth interim yn cymryd effaith o dan yr adran honno.

(5)

Rhaid i’r cyfnod a bennir o dan is-adran (4)(a) fod o leiaf 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y cyflwynir yr hysbysiad.