RHAN 2HENEBION O DDIDDORDEB HANESYDDOL ARBENNIG
PENNOD 6CAFFAEL, GWARCHEIDIAETH A MYNEDIAD Y CYHOEDD
Gwarcheidiaeth henebion o ddiddordeb hanesyddol arbennig
47Swyddogaethau cyffredinol gwarcheidwaid
(1)
Rhaid i warcheidwad heneb ei chynnal a’i chadw, a chaiff wneud unrhyw beth y mae’r gwarcheidwad yn ystyried ei fod yn angenrheidiol ar gyfer ei chynnal a’i chadw.
(2)
Gwarcheidwad yr heneb sy’n ei rheolaethu ac yn ei rheoli’n llawn, a chaiff wneud unrhyw beth y mae’r gwarcheidwad yn ystyried ei fod yn angenrheidiol ar gyfer ei rheolaethu a’i rheoli’n briodol.
(3)
Mae’r pwerau yn is-adrannau (1) a (2) yn cynnwys pŵer i—
(a)
gwneud unrhyw archwiliad o’r heneb;
(b)
agor yr heneb neu wneud cloddiadau ohoni at ddiben archwilio neu fel arall;
(c)
symud y cyfan neu unrhyw ran o’r heneb ymaith i fan arall at ddibenion ei diogelu.
(4)
Mae’r pŵer yn is-adran (2) yn cynnwys pŵer i’w gwneud yn ofynnol talu tâl mewn cysylltiad ag unrhyw ddefnydd o’r heneb.
(5)
Caiff gwarcheidwad heneb fynd i safle’r heneb at ddiben arfer unrhyw un neu ragor o bwerau’r gwarcheidwad o dan yr adran hon mewn perthynas â hi (a chaiff awdurdodi unrhyw berson arall i fynd i’r safle ac arfer y pwerau hynny ar ei ran).
(6)
Mae is-adrannau (2) i (4) yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaeth i’r gwrthwyneb yn y weithred warcheidiaeth.