RHAN 2HENEBION O DDIDDORDEB HANESYDDOL ARBENNIG

PENNOD 6CAFFAEL, GWARCHEIDIAETH A MYNEDIAD Y CYHOEDD

Gwarcheidiaeth henebion o ddiddordeb hanesyddol arbennig

46Darpariaeth atodol ynghylch gweithredoedd gwarcheidiaeth

(1)

Mae gweithred warcheidiaeth yn bridiant tir lleol.

(2)

Mae pob person y mae ei deitl i heneb o ddiddordeb hanesyddol arbennig yn deillio o, drwy neu o dan unrhyw berson sydd wedi cyflawni gweithred warcheidiaeth wedi ei rwymo gan y weithred oni bai mai yn rhinwedd unrhyw warediad a wnaed gan y person a gyflawnodd y weithred, cyn dyddiad y weithred honno, y mae teitl y person yn deillio.

(3)

Ni chaiff Gweinidogion Cymru nac awdurdod lleol ddod yn warcheidwaid adeilad neu strwythur a feddiennir fel annedd gan unrhyw berson ac eithrio gofalwr yr adeilad neu’r strwythur neu aelod o deulu’r gofalwr.

(4)

Mae gan unrhyw berson a chanddo unrhyw ystad neu unrhyw fuddiant mewn heneb sydd o dan warcheidiaeth yr un hawl a’r un teitl i’r heneb, a’r un ystad neu’r un buddiant ynddi, ym mhob cyswllt fel pe na bai’r heneb o dan warcheidiaeth; ond mae hyn yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaeth i’r gwrthwyneb yn y Rhan hon.