RHAN 2HENEBION O DDIDDORDEB HANESYDDOL ARBENNIG
PENNOD 6CAFFAEL, GWARCHEIDIAETH A MYNEDIAD Y CYHOEDD
Gwarcheidiaeth henebion o ddiddordeb hanesyddol arbennig
45Pŵer i osod heneb o ddiddordeb hanesyddol arbennig o dan warcheidiaeth
(1)
Caiff person sydd â buddiant cymhwysol mewn heneb o ddiddordeb hanesyddol arbennig, gyda chytundeb Gweinidogion Cymru, eu penodi drwy weithred yn warcheidwaid yr heneb.
(2)
Caiff person sydd â buddiant cymhwysol mewn heneb o ddiddordeb hanesyddol arbennig, gyda chytundeb unrhyw awdurdod lleol y mae’r heneb yn ei ardal neu yng nghyffiniau ei ardal, benodi’r awdurdod drwy weithred yn warcheidwad yr heneb.
(3)
Ni chaiff person nad yw’n feddiannydd heneb sefydlu gwarcheidiaeth yr heneb o dan yr adran hon oni bai bod y meddiannydd hefyd yn barti i’r weithred.
(4)
Caiff unrhyw berson arall a chanddo fuddiant yn yr heneb fod yn barti i’r weithred yn ogystal â’r person sy’n sefydlu gwarcheidiaeth yr heneb a (phan nad y person hwnnw yw’r meddiannydd) y meddiannydd.
(5)
Mae’r buddiannau a ganlyn mewn heneb yn fuddiannau cymhwysol at ddibenion yr adran hon—
(a)
ystad rydd-ddaliadol;
(b)
ystad lesddaliadol, neu fuddiant mewn meddiant—
(i)
sydd ag o leiaf 45 o flynyddoedd yn weddill, neu
(ii)
y gellir ei hadnewyddu neu ei adnewyddu am o leiaf 45 o flynyddoedd;
(c)
buddiant mewn meddiant am oes y person ei hun neu oes person arall, neu am oesau (pa un a ydynt yn cynnwys oes y person ei hun ai peidio), o dan unrhyw ymddiriedolaeth tir bresennol neu yn y dyfodol pan fo’r ystad neu’r buddiant sy’n ddarostyngedig i’r ymddiriedolaeth yn dod o fewn paragraff (a) neu (b).
(6)
Yn is-adran (5)(c) mae i “ymddiriedolaeth tir” yr un ystyr ag a roddir i “trust of land” yn Neddf Ymddiriedolaethau Tir a Phenodi Ymddiriedolwyr 1996 (p. 47).
(7)
Yn y Bennod hon ystyr “gweithred warcheidiaeth” yw gweithred a gyflawnir o dan is-adran (1) neu (2).