RHAN 2LL+CHENEBION O DDIDDORDEB HANESYDDOL ARBENNIG

PENNOD 6LL+CCAFFAEL, GWARCHEIDIAETH A MYNEDIAD Y CYHOEDD

Caffael henebion o ddiddordeb hanesyddol arbennigLL+C

44Caffael drwy gytundeb neu rodd henebion o ddiddordeb hanesyddol arbennigLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru gaffael drwy gytundeb unrhyw heneb o ddiddordeb hanesyddol arbennig.

(2)Caiff awdurdod lleol gaffael drwy gytundeb unrhyw heneb o ddiddordeb hanesyddol arbennig yn ei ardal neu yng nghyffiniau ei ardal.

(3)Caiff Gweinidogion Cymru neu unrhyw awdurdod lleol dderbyn rhodd (pa un ai drwy weithred neu ewyllys) o unrhyw heneb o ddiddordeb hanesyddol arbennig.

(4)Mae Rhan 1 o Ddeddf Prynu Gorfodol 1965 (p. 56) yn gymwys (i’r graddau y mae’n berthnasol) i gaffaeliad o dan yr adran hon, ac eithrio adrannau 4 i 8, adran 10 ac adran 31 o’r Ddeddf honno.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 44 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

I2A. 44 mewn grym ar 4.11.2024 gan O.S. 2024/860, ergl. 3(a)