RHAN 2HENEBION O DDIDDORDEB HANESYDDOL ARBENNIG

PENNOD 5GORFODI RHEOLAETHAU SY’N YMWNEUD Â HENEBION COFRESTREDIG

Hysbysiadau gorfodi

40Pwerau i fynd ar dir a chymryd camau sy’n ofynnol gan hysbysiad gorfodi

(1)

Os yw’r cyfnod y mae hysbysiad gorfodi yn ei gwneud yn ofynnol i unrhyw gam gael ei gymryd ynddo wedi dod i ben ac nad yw’r cam wedi ei gymryd, caiff person sydd wedi ei awdurdodi’n ysgrifenedig gan Weinidogion Cymru—

(a)

mynd ar y tir y mae’r heneb ynddo, arno neu odano a chymryd y cam, a

(b)

adennill oddi wrth berson sydd ar y pryd yn berchennog neu’n lesddeiliad ar yr heneb neu’r tir y costau yr aed iddynt wrth wneud hynny.

(2)

Mae’r atebolrwydd o dan is-adran (1) sydd gan berson sy’n berchennog heneb neu dir dim ond yn rhinwedd bod ganddo hawlogaeth i gael y crogrent fel ymddiriedolwr ar gyfer person arall wedi ei gyfyngu i gyfanswm yr arian sydd gan y person, neu y mae’r person wedi ei gael, yn rhinwedd yr hawlogaeth honno.

(3)

Pan fo llys ynadon, ar gais drwy gŵyn a wneir gan berchennog ar heneb gofrestredig neu dir, wedi ei fodloni bod meddiannydd ar yr heneb neu’r tir yn atal y perchennog rhag cymryd camau sy’n ofynnol gan hysbysiad gorfodi, caiff y llys drwy warant awdurdodi’r perchennog i fynd ar y tir a chymryd y camau.