RHAN 2HENEBION O DDIDDORDEB HANESYDDOL ARBENNIG

PENNOD 2COFRESTR O HENEBION O BWYSIGRWYDD CENEDLAETHOL

Cofrestr o henebion

4Hysbysu perchennog etc. pan fo’r gofrestr wedi ei diwygio

(1)

Mae is-adran (2) yn gymwys pan fo Gweinidogion Cymru yn diwygio’r gofrestr—

(a)

drwy ychwanegu heneb,

(b)

drwy ddileu heneb, neu

(c)

drwy ddiwygio’r cofnod ar gyfer heneb.

(2)

Cyn gynted â phosibl ar ôl diwygio’r gofrestr rhaid i Weinidogion Cymru gyflwyno hysbysiad eu bod wedi gwneud hynny—

(a)

i bob perchennog a phob meddiannydd ar yr heneb, a

(b)

i bob awdurdod lleol y mae’r heneb yn ei ardal.

(3)

Pan fo Gweinidogion Cymru wedi ychwanegu heneb at y gofrestr neu wedi diwygio’r cofnod yn y gofrestr ar gyfer heneb—

(a)

rhaid i’r hysbysiad bennu’r dyddiad y gwnaethant hynny, a

(b)

rhaid iddynt gynnwys gyda’r hysbysiad gopi o’r cofnod neu’r cofnod diwygiedig ar gyfer yr heneb yn y gofrestr.