RHAN 2LL+CHENEBION O DDIDDORDEB HANESYDDOL ARBENNIG

PENNOD 5LL+CGORFODI RHEOLAETHAU SY’N YMWNEUD Â HENEBION COFRESTREDIG

Hysbysiadau gorfodiLL+C

38Effaith rhoi cydsyniad heneb gofrestredig ar hysbysiad gorfodiLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys os rhoddir, ar ôl i hysbysiad gorfodi gael ei ddyroddi, gydsyniad heneb gofrestredig o dan adran 13(2)—

(a)sy’n awdurdodi unrhyw waith y mae’r hysbysiad yn ymwneud ag ef sydd wedi ei gyflawni yn groes i adran 11, neu

(b)sy’n awdurdodi gwaith sy’n golygu torri amod y rhoddwyd cydsyniad blaenorol yn ddarostyngedig iddo.

(2)Mae’r hysbysiad yn peidio â chael effaith (neu nid yw’n cymryd effaith) i’r graddau y mae’n—

(a)ei gwneud yn ofynnol i gamau gael eu cymryd sy’n anghyson â’r awdurdodiad i’r gwaith, neu

(b)ei gwneud yn ofynnol i gamau gael eu cymryd er mwyn cydymffurfio â’r amod.

(3)Nid yw’r ffaith bod hysbysiad gorfodi wedi peidio â chael effaith yn gyfan gwbl neu’n rhannol yn rhinwedd yr adran hon yn effeithio ar atebolrwydd unrhyw berson am drosedd mewn cysylltiad â methiant blaenorol i gydymffurfio â’r hysbysiad (gweler adran 41).

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 38 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)

I2A. 38 mewn grym ar 4.11.2024 gan O.S. 2024/860, ergl. 3(a)