RHAN 2HENEBION O DDIDDORDEB HANESYDDOL ARBENNIG

PENNOD 5GORFODI RHEOLAETHAU SY’N YMWNEUD Â HENEBION COFRESTREDIG

Hysbysiadau gorfodi

37Amrywio hysbysiad gorfodi a thynnu hysbysiad gorfodi yn ôl

(1)

Pan fo Gweinidogion Cymru wedi dyroddi hysbysiad gorfodi, cânt—

(a)

tynnu’r hysbysiad yn ôl;

(b)

hepgor neu lacio unrhyw ofyniad yn yr hysbysiad, ac yn benodol estyn y cyfnod y mae’r hysbysiad yn ei gwneud yn ofynnol i unrhyw waith gael ei stopio neu unrhyw gam gael ei gymryd ynddo.

(2)

Caiff Gweinidogion Cymru arfer y pwerau yn is-adran (1) pa un a yw’r hysbysiad wedi cymryd effaith ai peidio.

(3)

Nid yw tynnu hysbysiad gorfodi yn ôl yn atal Gweinidogion Cymru rhag dyroddi hysbysiad gorfodi arall.

(4)

Mae is-adran (5) yn gymwys pan oedd Gweinidogion Cymru wedi cyflwyno copïau o’r hysbysiad gorfodi o dan adran 36(4) cyn arfer y pwerau yn is-adran (1).

(5)

Yn union ar ôl arfer unrhyw un o’r pwerau hynny, rhaid i Weinidogion Cymru roi hysbysiad eu bod wedi gwneud hynny i bob person y cyflwynwyd copi o’r hysbysiad gorfodi iddo (neu y byddai copi o’r hysbysiad yn cael ei gyflwyno iddo pe bai’n cael ei ailddyroddi).