xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 2HENEBION O DDIDDORDEB HANESYDDOL ARBENNIG

PENNOD 5GORFODI RHEOLAETHAU SY’N YMWNEUD Â HENEBION COFRESTREDIG

Hysbysiadau gorfodi

36Cyflwyno hysbysiad gorfodi a’r hysbysiad yn cymryd effaith

(1)Rhaid i hysbysiad gorfodi bennu—

(a)y dyddiad y mae i gymryd effaith, a

(b)o fewn pa gyfnod y mae rhaid stopio’r gwaith a bennir yn yr hysbysiad neu y mae rhaid cymryd y camau a bennir ynddo.

(2)Mae’r hysbysiad yn cymryd effaith ar ddechrau’r diwrnod a bennir o dan is-adran (1)(a); ond pan fo apêl yn cael ei gwneud yn erbyn yr hysbysiad o dan adran 39, mae hyn yn ddarostyngedig i is-adran (4) o’r adran honno.

(3)Caiff hysbysiad gorfodi bennu cyfnodau gwahanol ar gyfer stopio gwaith gwahanol neu gymryd camau gwahanol.

(4)Pan fo Gweinidogion Cymru yn dyroddi hysbysiad gorfodi, rhaid iddynt gyflwyno copi o’r hysbysiad—

(a)i bob perchennog a phob meddiannydd ar yr heneb neu’r tir y mae’r hysbysiad yn ymwneud â hi neu ag ef;

(b)os yw’r heneb neu’r tir wedi ei gosod neu ei osod ond nad y lesddeiliad yw’r meddiannydd, i’r lesddeiliad, ac

(c)i unrhyw berson arall a chanddo fuddiant yn yr heneb neu’r tir y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried bod yr hysbysiad yn effeithio’n sylweddol arno.

(5)Rhaid‍ cyflwyno pob copi o’r hysbysiad—

(a)cyn diwedd 28 o ddiwrnodau ar ôl y diwrnod y dyroddir yr hysbysiad, a

(b)o leiaf 28 o ddiwrnodau cyn y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad fel y dyddiad y mae i gymryd effaith.