(1)Mae hysbysiad stop dros dro yn cymryd effaith pan arddangosir copi ohono yn unol ag adran 31 am y tro cyntaf.
(2)Mae hysbysiad stop dros dro yn peidio â chael effaith—
(a)ar ddiwedd 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod pan arddangosir y copi ohono yn unol ag adran 31 am y tro cyntaf, neu
(b)os yw’n pennu cyfnod byrrach sy’n dechrau â’r diwrnod hwnnw, ar ddiwedd y cyfnod hwnnw.
(3)Ond os yw Gweinidogion Cymru yn tynnu’r hysbysiad yn ôl cyn diwedd y cyfnod y byddai fel arall yn cael effaith ar ei gyfer, mae’r hysbysiad yn peidio â chael effaith pan gaiff ei dynnu’n ôl.
(4)Ni chaiff Gweinidogion Cymru ddyroddi ail hysbysiad stop dros dro neu hysbysiad stop dros dro dilynol mewn perthynas â’r un gwaith oni bai eu bod, ers dyroddi’r hysbysiad blaenorol, wedi cymryd camau gorfodi eraill mewn perthynas â’r toriad y cyfeirir ato yn adran 31(1)(a).
(5)Yn is-adran (4) mae’r cyfeiriad at gymryd camau gorfodi eraill yn gyfeiriad at—
(a)dyroddi hysbysiad gorfodi o dan adran 35, neu
(b)cael gwaharddeb o dan adran 42.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 32 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 212(2)
I2A. 32 mewn grym ar 4.11.2024 gan O.S. 2024/860, ergl. 3(a)