RHAN 2HENEBION O DDIDDORDEB HANESYDDOL ARBENNIG
PENNOD 5GORFODI RHEOLAETHAU SY’N YMWNEUD Â HENEBION COFRESTREDIG
Hysbysiadau stop dros dro
31Pŵer Gweinidogion Cymru i ddyroddi hysbysiad stop dros dro
(1)
Caiff Gweinidogion Cymru ddyroddi hysbysiad stop dros dro os ydynt yn ystyried—
(a)
bod gwaith wedi cael ei gyflawni neu yn cael ei gyflawni mewn perthynas â heneb gofrestredig sy’n golygu torri adran 11 (gofyniad i waith gael ei awdurdodi) neu amod y rhoddwyd cydsyniad heneb gofrestredig yn ddarostyngedig iddo, a
(b)
y dylai’r gwaith (neu unrhyw ran ohono) gael ei stopio ar unwaith, gan roi sylw i effaith y gwaith ar yr heneb fel un sydd o bwysigrwydd cenedlaethol.
(2)
Rhaid i hysbysiad stop dros dro—
(a)
pennu’r gwaith y mae’n ymwneud ag ef,
(b)
gwahardd cyflawni’r gwaith (neu unrhyw ran o’r gwaith a bennir yn yr hysbysiad),
(c)
nodi rhesymau Gweinidogion Cymru dros ddyroddi’r hysbysiad, a
(d)
datgan effaith adran 33 (y drosedd o dorri hysbysiad stop dros dro).
(3)
Rhaid i Weinidogion Cymru arddangos copi o hysbysiad stop dros dro ar yr heneb neu’r tir y mae’n ymwneud â hi neu ag ef, a rhaid i’r copi bennu’r dyddiad y caiff ei arddangos am y tro cyntaf.
(4)
Ond—
(a)
os nad yw’n rhesymol ymarferol arddangos copi o’r hysbysiad ar yr heneb neu’r tir, neu
(b)
os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried y gallai arddangos copi o’r hysbysiad ar yr heneb neu’r tir ddifrodi’r heneb,
caiff Gweinidogion Cymru, yn lle hynny, arddangos copi mewn lle amlwg mor agos i’r heneb neu’r tir ag y bo’n rhesymol ymarferol.
(5)
Caiff Gweinidogion Cymru gyflwyno copi o’r hysbysiad i unrhyw berson y maent yn ystyried—
(a)
ei fod yn cyflawni’r gwaith y mae’r hysbysiad yn ei wahardd neu’n peri neu’n caniatáu iddo gael ei gyflawni,
(b)
ei fod yn feddiannydd ar yr heneb neu’r tir y mae’r hysbysiad yn ymwneud â hi neu ag ef, neu
(c)
bod ganddo fuddiant yn yr heneb neu’r tir.