RHAN 2HENEBION O DDIDDORDEB HANESYDDOL ARBENNIG

PENNOD 4CYTUNDEBAU PARTNERIAETHAU HENEBION COFRESTREDIG

29Dehongli

Yn y Bennod hon—

mae i “cytundeb partneriaeth heneb gofrestredig” (“scheduled monument partnership agreement”) yr ystyr a roddir gan adran 25(1);

mae i “hysbysiad o derfyniad arfaethedig” (“notice of proposed termination”) yr ystyr a roddir gan baragraff 1 o Atodlen 5;

ystyr “perchennog” (“owner”) yw—

(a)

perchennog ar yr ystad rydd-ddaliadol, neu

(b)

tenant o dan les a roddir neu a estynnir am gyfnod penodol sydd ag o leiaf 7 mlynedd yn weddill;

mae i “tir cysylltiedig” (“associated land”), mewn perthynas â heneb, yr ystyr a roddir gan adran 25(1)(b).