RHAN 2HENEBION O DDIDDORDEB HANESYDDOL ARBENNIG

PENNOD 4CYTUNDEBAU PARTNERIAETHAU HENEBION COFRESTREDIG

25Cytundebau partneriaethau henebion cofrestredig

(1)

Caiff Gweinidogion Cymru wneud cytundeb o dan yr adran hon (“cytundeb partneriaeth heneb gofrestredig”)—

(a)

ag unrhyw berchennog ar heneb gofrestredig, neu

(b)

ag unrhyw berchennog ar dir sy’n cydffinio â heneb o’r fath neu sydd yng nghyffiniau heneb o’r fath (“tir cysylltiedig”).

(2)

Caiff unrhyw un neu ragor o’r personau a ganlyn hefyd fod yn barti i’r cytundeb (yn ogystal â’r perchennog a Gweinidogion Cymru)—

(a)

unrhyw feddiannydd ar yr heneb neu ei thir cysylltiedig;

(b)

unrhyw berson arall a chanddo fuddiant yn yr heneb neu ei thir cysylltiedig;

(c)

unrhyw berson sy’n ymwneud â rheoli’r heneb neu ei thir cysylltiedig;

(d)

unrhyw awdurdod lleol y mae’r heneb neu ei thir cysylltiedig yn ei ardal;

(e)

unrhyw awdurdod lleol sydd, yn rhinwedd Pennod 6, yn warcheidwad ar yr heneb neu ei thir cysylltiedig;

(f)

unrhyw berson arall y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei fod yn briodol gan fod ganddo wybodaeth arbennig am yr heneb neu am henebion o ddiddordeb hanesyddol neu archaeolegol yn fwy cyffredinol, neu ddiddordeb arbennig ynddi neu ynddynt.

(3)

Caiff cytundeb partneriaeth heneb gofrestredig roi cydsyniad heneb gofrestredig o dan adran 13(1) ar gyfer gwaith penodedig at ddiben—

(a)

symud ymaith neu atgyweirio’r heneb y mae’r cytundeb yn ymwneud â hi, neu

(b)

gwneud unrhyw addasiadau i’r heneb neu unrhyw ychwanegiadau ati.

(4)

Pan fo cytundeb partneriaeth heneb gofrestredig yn rhoi cydsyniad heneb gofrestredig yn ddarostyngedig i amodau, rhaid i’r cytundeb bennu’r amodau hynny.

(5)

Caiff cytundeb partneriaeth heneb gofrestredig hefyd—

(a)

pennu gwaith a fyddai, neu na fyddai, ym marn y partïon, yn waith y mae adran 11 yn gymwys iddo;

(b)

gwneud darpariaeth ynghylch cynnal a chadw a diogelu’r heneb neu ei thir cysylltiedig;

(c)

gwneud darpariaeth ynghylch cyflawni gwaith penodedig, neu wneud unrhyw beth penodedig, mewn perthynas â’r heneb neu ei thir cysylltiedig;

(d)

darparu ar gyfer mynediad y cyhoedd i’r heneb neu ei thir cysylltiedig a darparu cyfleusterau cysylltiedig, gwybodaeth gysylltiedig neu wasanaethau cysylltiedig i’r cyhoedd;

(e)

cyfyngu ar fynediad i’r heneb neu ei thir cysylltiedig neu ar y defnydd o’r heneb neu ei thir cysylltiedig;

(f)

gwahardd gwneud unrhyw beth penodedig mewn perthynas â’r heneb neu ei thir cysylltiedig;

(g)

darparu i Weinidogion Cymru, neu unrhyw awdurdod lleol y mae’r heneb neu ei thir cysylltiedig yn ei ardal, wneud taliadau o symiau penodedig ac ar delerau penodedig—

(i)

am gostau unrhyw waith y darperir ar ei gyfer o dan y cytundeb, neu tuag at y costau hynny, neu

(ii)

yn gydnabyddiaeth am unrhyw gyfyngiad, unrhyw waharddiad neu unrhyw rwymedigaeth a dderbynnir gan unrhyw barti arall i’r cytundeb.

(6)

Caiff cytundeb partneriaeth heneb gofrestredig ymwneud â mwy nag un heneb neu fwy nag un darn o dir cysylltiedig.

(7)

Yn yr adran hon ystyr “penodedig” yw wedi ei bennu neu ei ddisgrifio mewn cytundeb partneriaeth heneb gofrestredig.